Barwick-in-Elmet

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref yng Ngorllewin Swydd Efrog, Lloegr, yw Barwick-in-Elmet. Mae'n gorwedd 8 km (6 milltir) i'r dwyrain o ddinas Leeds.

Mae Barwick (ynganiad: 'Baric') yn un o ddau le yn yr ardal - Sherburn-in-Elmet yw'r llall - a gysylltir wrth ei enw â'r hen deyrnas Elmet, un o deyrnasoedd Brythoniaid yr Hen Ogledd.

Ceir bryngaer ger y pentref sy'n dyddio o Oes yr Haearn.

Dolenni allanol[golygu]