Bartholomew Roberts

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Bartholomew Roberts.png

Yr oedd Bartholomew Roberts (17 Mai 1682 - 10 Chwefror, 1722), o Gasnewydd Bach, Sir Benfro yn fôr-leidr llwyddiannus dros ben yn y Caribî a Gorllewin Affrica rhwng 1719 a 1722. Ei enw enedigol oedd John Roberts ond mae'n fwy adnabyddus dan yr enw Barti Ddu (Saesneg: "Black Bart") er na ddefnyddiwyd yr enw hwnnw yn ystod ei fywyd [1]. Ef oedd y môr-leidr mwyaf llwyddiannus yn ôl y nifer o longau a gipiodd[2] sef 470 yn ystod ei fywyd.[3]

Ei fywyd cynnar[golygu]

Ganwyd Bartholomew Roberts yng Nghasnewydd-Bach yn 1862,[4] neu Little Newcastle, rhwng Dinbych-y-pysgod a Hwlffordd yn Sir Benfro. Ei enw enedigol oedd John Roberts, a chredir mai ei dad oedd George Roberts mwy na thebyg.[5] Nid yw'n wybyddus pam y newidiodd ei enw o John i Bartholomew,[6] ond roedd yn arfer ymhlith môr-ladron i gymryd ffugenwau, ac mae'n bosib iddo gymryd yr enw hwnnw ar ôl y môr-leidr adnabyddus Bartholomew Sharp.[7] Credir iddo ddechrau ei fywyd ar y môr pan oedd yn 13 yn 1695 ond nid oes unrhyw gofnod arall ohono tan 1718, wpan oedd yn fêt ar slŵp ym Marbados.[8]

Yn 1719, roedd Roberts yn ail fêt ar y llong gaethwasaeth Princess, dan arweiniad y Capten Abraham Plumb. Ar ddechrau mis Mehefin, pan oedd y llong wedi'i hangori yn Anomabu yng Ngorllewin Affrica pan ymosododd y môr-leidr o Gymro Hywel Davies arni. Roedd Plumb a'i griw ar ddwy long wahanol, y Royal Rover a'r Royal James. Wedi cipio'r llong, gorfodwyd ef i ymuno a chriw y môr-ladron. Pan laddwyd Howel Davies, chwech wythnos yn ddiweddarach, dewisodd y môr-ladron Roberts i fod yn gapten yn ei le.


Cyn hir yr oedd llawer o siarad am orchestion Barti Ddu a'i long Royal Fortune. Hwyliodd i mewn i lynges o 42 o longau Portiwgal, daliodd garcharor i'w holi pa un o'r llongau oedd y gyfoethocaf ac yna cipiodd y llong honno a'i hwylio ymaith. Dro arall daeth i borthladd yn Newfoundland lle roedd 22 o longau, a ffodd criw pob un ohonynt mewn ofn. Dywedir ei fod yn cadw disgyblaeth dda ar ei griw, ac yn gwahardd diodydd meddwol ar fwrdd ei long.

Bart Roberts.jpg

Gyrrodd y Llynges Brydeinig long ryfel, HMS Swallow dan y Capten Chaloner Ogle, i geisio ei ddal, ac yn 1722 bu brwydr rhwng y llong yma a'r Royal Fortune ger Cape Lopez, Gabon. Ar ddechrau'r ymladd safai Roberts yn ei wisg wychaf yn annog ei griw, ond tarawyd ef yn ei wddf gan fwled a'i ladd. Taflwyd ei gorff i'r môr yn ôl ei ddymuniad. Heb eu capten, ildiodd y gweddill o'r criw, a chrogwyd nifer ohonynt.


Penglog ac Esgyrn[golygu]

Baner Barti Ddu

Dywedir mai ar un o longau Barti y chwifiwyd baner y Penglog a'r Esgyrn am y tro cyntaf. Dywed eraill mai tarddiad y faner ydyw'r Seiri Rhyddion.

Ffynhonnell y wybodaeth amdano[golygu]

Y ffynhonnell bwysicaf ar gyfer hanes Roberts yw'r llyfr A General History of the Pyrates, a gyhoeddwyd ychydig flynyddoedd wedi ei farwolaeth. Ar dudalen deitl yn argraffiad cyntaf yn 1724, rhoir yr awdur fel Capten Charles Johnson; mae rhai ysgolheigion yn credu mai Daniel Defoe, yn ysgrifennu dan ffugenw, oedd yr awdur. Rhoddodd Johnson fwy o le yn ei lyfr i Roberts nag i unrhyw un o'r môr-ladron eraill, gan ei ddisgrifio fel :

... a tall black man, near forty years of age ... of good natural parts and personal bravery, though he applied them to such wicked purposes as made them of no commendation, frequently drinking 'Damn to him who ever lived to wear a halter'.[9]

Mewn ffuglen[golygu]

Ysgrifennodd T. Llew Jones nofel i blant am Roberts o'r enw Barti Ddu.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Sanders, p. 18. Bathwyd y term "Barti Ddu" fel enw cerdd gan y bardd Cymreig I. D. Hooson, a ddewisodd yr enw yn ôl y sôn am fod Johnson wedi disgrifio pryd a gwedd tywyll Roberts.
  2. Rediker p. 33.
  3. Breverton p. 172
  4. Yount p.74
  5. Burl p. 55
  6. Yount p.64
  7. Sanders, p. 18.
  8. Richards p. 20
  9. Johnson p.213