Barn ar Egwyddorion y Llywodraeth

Oddi ar Wicipedia
Barn ar Egwyddorion y Llywodraeth

Anterliwt gan fardd anhysbys o'r 18g yw Barn ar Egwyddorion y Llywodraeth. Cafodd ei chyhoeddi rhywbryd yn y 1780au. Mae'n llyfr hynod o brin a fu "ar goll" am ddwy ganrif bron.[1] Cyhoeddwyd adargraffiad ffotograffig yn 1983 wedi'i golygu gan y Dr Emyr Wyn Jones dan y teitl Yr Anterliwt Goll.

Y teitl llawn yw Barn ar Egwyddorion y Llywodraeth, mewn Ymddiddan rhwng Pendefig a Hwsmon. Disgrifir yr awdur fel "Bardd anadnabyddus o Wynedd."[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Dr Emyr Wyn Jones (gol.), Yr Anterliwt Goll.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.