Barddas (cylchgrawn)

Oddi ar Wicipedia
Barddas
Enghraifft o'r canlynolcylchgrawn Edit this on Wikidata
CyhoeddwrCyhoeddiadau Barddas Edit this on Wikidata
GwladCymru Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1976 Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.barddas.cymru/ Edit this on Wikidata
Gweler hefyd: Barddas
Rhifyn 300

Cylchgrawn sy'n ymwneud â barddoniaeth yw Barddas a sefydlwyd yn 1976 gan Alan Llwyd a Gerallt Lloyd Owen. Caiff ei gyhoeddi yn chwarterol gan Gyhoeddiadau Barddas (Y Gymdeithas Gerdd Dafod), sydd hefyd yn cyhoeddi llyfrau'n ymwneud â barddoniaeth Gymraeg.[1]

Yn wreiddiol, ymdrin â cherdd dafod oedd pwrpas y cylchgrawn. Argraffwyd y rhifyn cyfredol gan Wasg Dinefwr, Llandybïe; mae dros 300 o rifynnau wedi'u cyhoeddi.

Yn ôl y Cyngor Llyfrau, gall y gwerthiant fod mor fach a 500 copi gyda £6,000 o nawdd yn cael ei roi am y nifer hwn, sy'n golygu £12 o nawdd am bob copi.[2]

Golygyddion[golygu | golygu cod]

Y golygyddion gwreiddiol oedd sefydlwyr y cylchgrawn, Alan Llwyd a Gerallt Lloyd Owen. Daeth Llwyd yn olygydd ar ben ei hun rhwng 1983 a 2011 pan roddodd gorau i'r swydd.[3][4] Golygwyd y cylchgrawn dros dro gan Llion Jones a Peredur Lynch cyn penodi Twm Morys fel golygydd newydd gan ddechrau ei waith yn Ionawr 2012.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) literaturewales.org Archifwyd 2014-03-02 yn y Peiriant Wayback.
  2. Golwg, cyfrol 24, rhif 13 (24 Tachwedd 2011)
  3.  Pwy 'di Pwy: Alan Llwyd. Newyddion BBC (1 Chwefror 2000). Adalwyd ar 1 Mai 2016.
  4. Alan Llwyd yn rhoi’r gorau i olygu Barddas , Golwg360, 13 Mehefin 2011. Cyrchwyd ar 1 Mai 2016.
  5. Golygydd newydd Barddas , Golwg360, 19 Medi 2011. Cyrchwyd ar 1 Mai 2016.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]