Barbuda

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Barbuda

Ynys ym Môr y Caribî yw Barbuda. Mae'n un o'r Ynysoedd Leeward yn yr Antilles Lleiaf, ac yn ffurfio rhan o wladwriaeth Antigua a Barbuda. Mae'r boblogaeth tua 1,600, y mwyafrif yn byw yn y brif dref, Codrington.

Saif Barbuda i'r gogledd o ynys Antigua. Glaniodd Christopher Columbus yma yn 1493, pan oedd y boblogaeth frodorol yn bobl Arawak a Carib. Meddiannwyd yr ynys gan y Saeson yn 1666, ac yn 1685 fe'i rhoddwyd ar lês i'r brodyr Christopher a John Codrington, a sefydlodd dref Codrington. Mewnforiwyd caethweision, gyda rhai ohonynt yn cael ei trosglwyddo i blanhigfeydd siwgwr Antigua.

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill