Barbel
Oddi ar Wicipedia
Dyn yn mainc wthio 345lbs (156kg).
Darn o offer a ddefnyddir wrth hyfforddi gyda phwysau, codi pwysau a chodi pŵer ydy barbel. Amrywia hyd barbel o 4 i 8 troedfedd, er gan amlaf defnyddir barau dros 7 troedfedd o hyd gan godwyr pŵer ac nid ydynt mor gyffredin.[1] Mae'r rhan ganol yn amrywio o ran diamedr, ond mae'n agos i fodfedd, a cheir arno batrwm cris-croes er mwyn rhoi gwell gafael i'r codwyr. Llithrir platiau pwysau ar ran allanol y bar er mwyn cyrraedd y pwysau a ddymunir.[2]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Yousaf. A Beginners Guide To Gym Equipment. Amateur Body Builders' Guild of Pakistan.
- ↑ Pickyguide Guide to Barbells. Pickyguide.com.