Bara Angylion Duw

Oddi ar Wicipedia
Cyfansoddwyd y darn yn wreiddiol ar gyfer Gŵyl Corff Crist a ddethlir yn yr Eglwys Babyddol

Pennill o'r emyn Sacris Solemniis a ysgrifennwyd gan y Sant Thomas Aquinas (1225-1274) yw Bara Angylion Duw, neu Panis Angelicus yn y Lladin gwreiddiol. Er mai un pennill ydyw, y chweched o saith pennill yn y Sacris Solemniis, daeth yn arferiad canu'r pennill ar ei ben ei hun fel emyn ynddo'i hunan ar wahanol donau, ac mae'r pennill yn fwy adnabyddus fel darn i'w ganu bellach na'r emyn gwreiddiol y mae'n rhan ohono.

Ym 1872, gosododd y cyfansoddwr César Franck y geiriau ar gyfer llais (tenor), telyn, soddgrwth ac organ, a'i gynnwys yn ei Opws 12 Messe à trois voix. Mae'r emyn bellach yn adnabyddus ar y dôn honno gan Franck, naill ai yn Lladin, neu yn fwy cyffredin yng Nghymru, yn Gymraeg.

Geiriau[golygu | golygu cod]

Geiriau Cymraeg Y Lladin gwreiddiol
Bara Angylion Duw
dry'n fara plant y llawr
Nefolaidd fara
rydd oleuni mwyna'r wawr:
O wledd, o ryfedd ryw!
Gwledd gyda'n Harglwydd mawr
Tlodion, gweision a'r isel rai.[1]
Panis angelicus
fit panis hominum;
Dat panis coelicus
figuris terminum:
O res mirabilis!
Manducat Dominum
Pauper, servus et humilis.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Bara Angylion Duw", YouTube, 28 Ionawr 2011.