Bantu (pobl)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mam a phlentyn Makua, y grŵp Bantu fwyaf ym Moçambique.

Defnyddir y term Bantu am uwch-grŵp ethnig yng nghanolbarth, dwyrain a de Affrica sy'n siarad un o'r ieithoedd Bantu. Mae'n cynnwys dros 400 o grwpiau ethnig, gan gynnwys y Zulu, y Kikuyu, y Kongo, y Tutsi, yr Hutu, y Tswana, y Swazi, a'r Swahili.

Ystyr y gair "Bantu" neu air tebyg mewn llawer o'r ieithoedd Bantu yw "pobl" neu "y bobl". Y farn gyffredinol ar hyn o bryd yw bod y Bantu wedi tarddu o ardal ger ffîn dde-orllewinol Nigeria a Cameroon tua 5,000 o flynyddoedd yn ôl (3000 CC). Dros gyfnod o ganrifoedd, bu lledaeniad graddol tua'r dwyrain a thua'r de. Roeddyny y bobl amaethyddol, ac yn raddol disodlwyd yr helwyr-gasglwyr oedd yn byw yn Affrica i'r de o'r cyhydedd.

Yn y 14eg a'r 15fed ganrif, datblygodd gwladwriaethau Bantu pwerus yn rhan ddeheuol Affrica, yn arbennig yn ardal afon Zambezi, lle adeiladwyd Zimbabwe Fawr gan y brenhinoedd Monomatapa.