Bangor, Alabama

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cymuned heb ei hymgorffori yn Swydd Blount, Alabama, yr Unol Daleithiau (UDA) yw Bangor. Mae'n gorwedd i'r dwyrain o ffordd Interstate 65 tua 30 milltir i'r gogledd o ddinas Birmingham.

Roedd Ogof Bangor (Saesneg: Bangor Cave) ger y dreflan yn gartref i speakeasy yng nghyfnod y gwaharddiad ar yfed (Prohibition). Roedd y speakeasy yn cael ei adnabod fel 'Bangor Cave Casino'. Bu'n enwog am gyfnod ond fe'i caewyd yn 1939 gan "G Men" yr FBI ac arestiwyd ei berchnogion a'r gweithwyr yno. Cymerwyd y byrddau gamblo a'r wisgi anghyfreithlon i ffwrdd a'u dinistrio.

Flag-map of Alabama.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Alabama. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.