Baner Sénégal
Oddi ar Wicipedia
Baner drilliw fertigol o stribedi gwyrdd, melyn, a choch gyda seren werdd yng nghanol y stribed canolog melyn yw baner Sénégal. Lliwiau pan-Affricanaidd yw gwyrdd, melyn, a choch; symbol undod a gobaith yw'r seren; ac mae'r dyluniad yn seiliedig ar Tricolore Ffrainc. Mabwysiadwyd ym Medi 1960 yn sgîl annibyniaeth Sénégal ar Ffrainc.
ffynonellau [golygu]
- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)