Baner Pakistan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Pakistan FIAV 011000.svg

Maes gwyrdd tywyll gyda stribed fertigol gwyn yn yr hoist a seren a chilgant gwyn yn y canol yw baner Pakistan. Mae'n seiliedig ar faner y Cynghrair Mwslemaidd, baner werdd (lliw Islam) tywyll gyda seren a chilgant (symbol Islam) gwyn yn ei chanol. Ychwanegwyd y stribed gwyn (i gynrychioli lleiafrifoedd y wlad) pan fabwysiadwyd fel baner genedlaethol yn sgîl Rhaniad India ac annibyniaeth ar Brydain ar 14 Awst, 1947. Yn ogystal â'r symbolaeth Islamaidd, mae gwyrdd yn cynrychioli ffyniant a gwyn yn cynrychioli heddwch, ac mae'r cilgant yn symbol o welliant a'r seren yn golygu golau a gwybodaeth.

[golygu] Ffynonellau

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
Flag of Pakistan.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Bakistan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau
Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill