Baner Mawrisiws

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Baner Mauritius)
Baner Mawrisiws

Baner o bedwar stribed llorweddol, a ddyluniwyd gan Goleg yr Arfau yn Llundain cyn annibyniaeth a mabwysiadwyd gan Fawrisiws fel baner genedlaethol ar 9 Ionawr, 1968, yw baner Mawrisiws. Stribed coch sydd ar frig y faner, i gynrychioli annibyniaeth y wlad; glas oddi tanddo, sy'n symboleiddio Cefnfor India; melyn, sy'n symboleiddio dyfodol "disglair"; a gwyrdd ar y gwaelod, i gynrychioli llystyfiant ffrwythlon a thoreithiog yr ynys. Cymerwyd y lliwiau o'r arfbais genedlaethol.

ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)