Baner Malaysia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Malaysia FIAV 110010.svg

Baner o stribedi llorweddol coch a gwyn gyda chilgant a seren melyn ar ganton glas yw baner Malaysia. Mae glas y canton yn cynrychioli undod pobl Malaysia, y cilgant a'r seren yn cynrychioli crefydd Islam, a'r 14 stribed yn cynrychioli 14 talaith y ffederasiwn. Mae gan y seren 14 pwynt hefyd i gynrychioli undod y taleithiau. Melyn yw lliw traddodiadol arweinwyr Malayaidd, ac mae coch a gwyn yn lliwiau traddodiadol yn Ne Ddwyrain Asia.

Bu faner gyntaf Malaya annibynnol ar sail baner yr Unol Daleithiau, ond gyda symbolaeth Islamaidd. Roedd ganddi 11 o stribedi coch a gwyn a chanton glas (yn union fel baner UDA ond dau stribed yn llai) ond gyda chilgant a seren (gyda 11 pwynt) melyn ar y canton. Bu'r 11 stribed a phwynt yn cynrychioli 11 talaith y ffederasiwn.

Yn 1963, ymunodd tair talaith newydd – Sabah, Sarawak a Singapôr – â Ffederasiwn Malaya i ffurfio Ffederasiwn Malaysia. Cafodd tri stribed a phwynt arall eu hychwanegu i adlewyrchu hyn. Pan ymwahanodd Singapôr yn 1965, ni newidiodd y faner. Dywedir nawr bod y pedwerydd stribed a phwynt ar ddeg yn cynrychioli ardal ffederal Kuala Lumpur.

[golygu] Ffynonellau

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
LocationAsia.png Eginyn erthygl sydd uchod am Asia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau
Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill