Baner Ecwador

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Baner Ecuador)
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Ecwador FIAV 010010.svg
Lluman sifil Ecwador FIAV 100100.svg

Mabwysiadwyd baner Colombia Fawr ar 17 Rhagfyr, 1819 yn dilyn ei hannibyniaeth ar Sbaen. Baner drilliw lorweddol yw hi, gyda hanner uchaf y faner yn felyn (symbol o Golombia Fawr), y chwarter nesaf i lawr yn las (i gynrychioli annibyniaeth ar Sbaen) a'r chwarter isaf yn goch (am ddewrder). Lliwiau Francisco de Miranda, yr arweinydd rhyddid, ydynt. Fe ymwahanodd Ecwador o Golombia Fawr fel gweriniaeth ar wahân ym 1830, ac ar 26 Medi, 1860 mabwysiadwyd dyluniad baner Colombia Fawr fel baner Ecwador.

Fel baneri eraill y cyn-drefedigaethau Sbaenaidd, gosodir arfbais y wlad yn ei chanol pan defnyddir fel lluman gwladwriaethol neu lyngesol; ychwanegwyd hon ym 1900. Nid oes arfbais yn y lluman sifil ac felly mae'n unfath â baner Colombia, ac eithrio'r cyfraneddau.

Ffynonellau[golygu]

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
Flag of Ecuador.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Ecwador. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato