Baner Côte d'Ivoire
Oddi ar Wicipedia
Baner drilliw gyda stribed chwith oren, stribed canol gwyn, a stribed dde coch yw baner Côte d'Ivoire. Mae oren yn cynrychioli safanau gogleddol y wlad ac ysbryd datblygiad cenedlaethol, gwyrdd yn cynrychioli coedwigoedd y de a'r gobaith am ddyfodol gwell gan ddefnyddio adnoddau naturiol, a gwyn yn symboleiddio'r awyr, purdeb, ac undod rhwng gogledd a de'r wlad. Mabwysiadwyd ar 3 Rhagfyr 1959.
Ffynhonnell[golygu]
- Znamierowski, Alfred. The World Encyclopedia of Flags (Llundain, Southwater, 2010).