Baner Bhutan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Bhutan FIAV 111000.svg

Rhennir baner Bhutan o'i chornel chwith isaf i'w chornel dde uchaf gyda thriongl melyn uwch a thronigl oren is, a draig ddu a gwyn ar draws canol ffin y trionglau yn wynebu i ffwrdd o'r hoist. Cynrychiolia'r ddraig enw'r wlad, Druk, a symboleiddia ei lliwiau burdeb a ffyddlondeb. Mae'r ddraig yn dal tlysau yn ei chrafangau i symboleiddio cyfoeth a pherffeithrwydd y wlad. Mae'r melyn yn cynrychioli rôl y Brenin mewn materion crefyddol a gwladwriaethol, a'r oren yn symboleiddio ymarfer crefyddol.

Defnyddiwyd y faner ers y 19eg ganrif, ond mae'r dyluniad cyfredol yn dyddio o tua 1965, pan newidwyd siâp y ddraig a newidwyd lliw'r triongl isaf o farŵn i oren.

[golygu] Ffynhonnell

  • Znamierowski, Alfred. The World Encyclopedia of Flags (Llundain, Southwater, 2010).
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill