Baner Antilles yr Iseldiroedd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Antilles yr Iseldiroedd FIAV 110000.svg
Baner Antilles yr Iseldiroedd (1959–1985) FIAV historical.svg

Maes gwyn gyda stribed coch fertigol a orgyffwrddir gan stribed glas llorweddol gyda phum seren wen yn ei ganol yw baner Antilles yr Iseldiroedd. Daw'r lliwiau o faner yr Iseldiroedd, ac mae'r sêr yn cynrychioli grwpiau ynysoedd y diriogaeth. Mabwysiadwyd yn 1959; yn wreiddiol roedd chwe seren, ond newidiwyd hyn i bump pan adawodd Aruba yn 1986.

Ffynonellau[golygu]

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)