Baner Anguilla
Oddi ar Wicipedia
Lluman glas (sef maes glas gyda Baner yr Undeb yn y canton) gydag arfbais Anguilla yn y fly yw baner Anguilla. Mae'r arfbais yn dangos tri dolffin (sy'n symboleiddio cyfeillgarwch, doethindeb, a chryfder) ar gefndir gwyn uwchben stribed gwyrddlas (i gynrychioli'r môr). Mabwysiadwyd yr arfbais yn wreiddiol fel baner answyddogol yr ynys yn 1967, pan gwahanodd o St Kitts a Nevis (gweler Saint Christopher-Nevis-Anguilla). Mabwysiadwyd y faner yn 1990.
[golygu] Ffynonellau
- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)