Bandung
Oddi ar Wicipedia
Dinas yn rhan orllewinol ynys Jawa yn Indonesia yw Bandung. Hi yw prifddinas rhanbarth Gorllewin Jawa.
Saif y ddinas 768 medr uwch lefel y môr, ac o'r herwydd mae'r hinsawdd yn llai poeth na'r dinasoedd ar y arfordir. Mae'r boblogaeth tua 2.8 miliwn. Daeth y ddinas i amlygrwydd rhyngwladol pan gynhaliwyd Cynhadledd Bandung yma yn 1955, y cyntaf o gyfres o gynhadleddau rhwng arweinwyr gwledydd Asia ac Affrica. Ceir nifer o brifysgolion yma.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Eglwys gadeiriol
- Gedung Sate
- Hotel Preanger
- Institut Teknologi Bandung
- Villa Isola
Enwogion [golygu]
- Johan Fabricius (1899-1981), awdur
- Tan Joe Hok (g. 1937), chwaraewr badminton