Banc Cenedlaethol Denmarc
Oddi ar Wicipedia
Banc canolog Denmarc sy'n gyfrifol am ryddhau uned ariannol Denmarc, y krone, yw Banc Cenedlaethol Denmarc (Daneg: Danmarks Nationalbank). Sefydlwyd ar 1 Awst 1818 gan y Brenin Frederick VI. Dyluniwyd adeilad y Banc (1965–71) gan y pensaer Danaidd nodedig, Arne Jacobsen.
Dolen allanol[golygu]
- (Daneg) Gwefan swyddogol y banc