Banc Canolog Dwyrain y Caribî
Oddi ar Wicipedia
Awdurdod ariannol grwp o chwe gwladwriaeth annibynnol yn y Caribî yw Banc Canolog Dwyrain y Caribî (Saesneg: Eastern Caribbean Central Bank).
Y gwledydd yw:
- Antigua a Barbuda,
- Grenada,
- Saint Kitts a Nevis,
- Cymanwlad Dominica,
- Saint Lucia,
- Saint Vincent a'r Grenadines,
a dwy o diriogaethau tramor y DU sef,
Sefydlwyd y banc yn Hydref 1983 er mwyn ceisio cynnal sefydlogrwydd Doler Dwyrain y Caribî (EC$) ac er mwyn diogelu'r system bancio a hybu economïau'r aelod-wladwriaethau. Lleolir y pencadlys yn ninas Basseterre, ar ynys St. Kitts.
Mae pob aelod hefyd yn aelod o'r OECS (Organisation of Eastern Caribbean States).
Gweler hefyd [golygu]
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) Gwefan swyddogol y banc