Bae Sain Ffraid
Oddi ar Wicipedia
Bae yn Sianel San Siôr ar arfordir gorllewin Sir Benfro yw Bae Sain Ffraid. Fe'i diffinir gan Ynys Dewi a Penmaen Dewi yn y gogledd ac Ynys Skomer a phenrhyn Marloes yn y de. Mae'r glannau i gyd yn rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac yn cynnwys nifer o draethau tywodlyd braf.
Mae'r pentrefi a ganlyn ar lannau'r bae (o'r de i'r gogledd):
Er nad yw ar lan y bae ei hun mae dinas hanesyddol Tyddewi yn agos iddo hefyd, yn ei ben gogleddol.
Enwyd Penmaen Dewi ar fap hynaf y byd, sef map Ptolemi o'r ail ganrif Ô.C.[1]
Yr enw[golygu]
Yr un enw â llwyth Celtaidd y Brigantes sydd yma.
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.