Bae Caswel

Oddi ar Wicipedia
Bae Caswel
Mathbae, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.5689°N 4.0334°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Mae Bae Caswel yn draeth poblogaidd ym Mhenrhyn Gŵyr sydd wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SoDdGA neu SSSI) ers 1 Ionawr 1972 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[1] Mae ei arwynebedd yn 62.99 hectar. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle.

Mae'r ffordd i lawr at y traeth yn hawdd a cheir parc chwarae ychydig i mewn i'r tir. Mae'r traeth yn boblogaidd ar gyfer nifer o chwareaeon dŵr gan gynnwys syrffio. Mae'r traeth hwn yn derbyn gwobrau Baner las yn flynyddol.

Yn 2006 derbyniodd Bae Caswell wobr y Guardian a chafodd ei gynnwys yn y rhestr 50 traeth gorau yng ngwledydd Pryadain.[2]

Hanes[golygu | golygu cod]

Rhwng 1829 a 1840 prynnwyd llawer o'r tir oamgylch y bae gan John James, cyn-Giwrat Bishopston, yn anrheg i'w ferch a'i fab-yng-nghyfraith Charles Morgan.[3] Ym 1846, gwerthodd y teulu'r rhan dwyreiniol i'r ffotograffyd John Dillwyn Llewelyn a oedd yn ymwelydd cyson a'r bae. Cododd dŷ yma a'i alw'n "Caswell Cottage" a chafodd ei ddymchwel ym 1960.[4] Ym 1854 gofynnwyd i Llewelyn gan Albert o Saxe-Coburg-Gotha am ddau ffotograff o'r bae'n anrheg.[5] Yn Awst 1878 boddodd ŵyr Llewellyn tra'n nofio yn y bae a chynhaliwyd y cwest yng Ngwesty Caswell Bae.

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig[golygu | golygu cod]

Dynodwyd y safle’n un o statws arbennig ar sail daeareg yn ogystal â bod ynddo fywyd gwyllt o bwys ac o dan fygythiad. Er enghraifft efallai i’r statws gael ei ddynodi oherwydd fod ynddo strata’n cynnwys ffosiliau hynod o greaduriaid asgwrn cefn neu ffosiliau o bryfaid neu blanhigion yn ogystal â’r stratigraffeg ei hun (h.y. haenau o greigiau o bwys cenedlaethol). Mae SoDdGA yn cynnwys amrywiaeth eang o gynefinoedd, gan gynnwys ffeniau bach, dolydd ar lannau afonydd, twyni tywod, coetiroedd ac ucheldiroedd. Mae'n ddarn o dir sydd wedi’i ddiogelu o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 am ei fod yn cynnwys bywyd gwyllt neu nodweddion daearyddol neu dirffurfiau o bwysigrwydd arbennig.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru (bellach 'Cyfoeth Naturiol Cymru'); Archifwyd 2014-01-01 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 25 Rhagfyr 2013
  2. "The UKs top 50 beaches". London: guardian.co.uk. 22 November 2006. Cyrchwyd 28 October 2012.
  3. Morgan, P. (1981) Caswell - The Making of a Landscape. Gower journal of the Gower Society, Vol.32 (1981), p. 6-10.
  4. Gabb, G. (2000) The Dillwyn family in Mumbles. Gower journal of the Gower Society, Cyfrol. 51, (2000), tud. 20-30.
  5. "Cave - Caswell Bay - East". SwanseaHeritage.net. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-05-29. Cyrchwyd 30 Hydref 2012.