Bad Achub Y Mwmbwls

Oddi ar Wicipedia
Bad Achub Y Mwmbwls
Mathcanolfan bad achub Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAbertawe Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.5698°N 3.9741°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganSefydliad Brenhinol y Badau Achub Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethSefydliad Brenhinol y Badau Achub Edit this on Wikidata

Gorsaf Sefydliad Brenhinol y Badau Achub (RNLI) yn y Mwmbwls, i'r de-orllewin o Abertawe, yw Gorsaf Bad Achub Y Mwmbwls.

Ar 23 Ebrill 1947 collodd 8 aelod o griw y bad achub eu bywyd tra yn ceisio arbed y Samtampa. Aeth y Samtampa i drafferthion mewn storm enbyd gyda nam ar ei hinjan. Gollyngwyd dau angor i'r môr ond fe dorrodd yn rhydd gyda rhyferthwy'r storm ac yr oedd yn cael ei hyrddio tuag at y creigiau yn ymyl Pwynt y Sger. Derbyniodd y Bad Achub neges am 5.48 y.p. gan fod y Samtampa yn amlwg mewn perygl o ddryllio. Ofer bu'r ymdrechion ac fe gollwyd y llong stemar a'r bad achub.

Gwirfoddolodd nifer o ddynion i gael criw arall yn y Mwmbwls ac yr oedd yr orsaf yn weithredol erbyn 6 Mehefin 1947, a daeth y bad achub newydd ar 28 Gorffennaf 1947. Cafodd yr enw "Manchester & District XXX" am bod cronfa Bad Achub Manceinion a Salford wedi talu amdani. Ychwanegwyd enw William Gammon hefyd er cof am y cocs a'r criw.