Bachgen Bach o Dincer

Oddi ar Wicipedia
Bachgen Bach o Dincer
Enghraifft o'r canlynolgwaith neu gyfansodiad cerddorol Edit this on Wikidata

Cân werin draddodiadol yw Bachgen Bach o Dincer.

Cofnodwyd y gân hon gan Meredydd Evans wedi iddo glywed Ifan O. Williams yn ei chanu, a gasglodd hi gan hen ŵr ym Mhenmaenmawr i baratoi ar gyfer cyfres radio ar hen ganeuon ar ddiwedd y 1940au. Dysgodd yr hen ŵr hi yn yr ysgol; ymddengys fod dylanwad y Saesneg ar y gân, ac efallai iddo Gymreigio'r gân o gân Saesneg, iaith nad oedd yn ei ddeall ar y pryd. Mae'n enghraifft o gân gyda geiriau macaronig, hynny yw, geiriau mewn dwy iaith wedi eu cymysgu.

Geiriau[golygu | golygu cod]

Bachgen bach o dincer
Yn crwydro'r hyd y wlad,
Cario'i dwls yn dacla,
Gwneud ei waith yn rhad,
Yn ei law roedd haearn
Ac ar ei gefn roedd bocs,
Pwt o getyn yn ei geg,
A than ei drwyn roedd locs.

Cyrfa
Potsiar a peipar a twigar owns agen,
Ddy potsiar o ddy peipar o ddy nicrbocr lein;
La di da di da di da, hoc it on ddy tshen,
Ddy potsiar o ddy peipar o ddy knickerbocker line.

Cydio yn y badell,
Y piser neu'r ystên;
Taro'r haearn yn y tân
A dal i sgwrsio'n glên;
Eistedd yn y gongol,
Un goes ar draws y llall,
Taenu'r sodor gloyw glân
I gywrain guddio'r gwall.

Holi hwn ac arall
Ple'r aeth y tincer mwyn,
Gyda'i becyn ar ei gefn,
A chetyn dan ei drwyn.
Bachgen bach o dincer
Ni welir yn y wlad;
Mae'n golled ar ei ôl
I 'neud ei waith yn rhad.