Bacharuddin Jusuf Habibie

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Bacharuddin Jusuf Habibie

Bacharuddin Jusuf dr. ir. Habibie, hefyd Rudy Habibie neu B.J. Habibie (ganed 25 Mehefin 1936) oedd trydydd Arlywydd Indonesia, o 1998 hyd 1999.[1]

Ganed ef yn Pare Pare ar ynys Sulawesi, ac astudiodd yn Bandung cyn astudio technoleg awyrennau yn yr Almaen. Bu'n gweithio i gwmni Messerschmitt-Bölkow-Blohm yn Hamburg am gyfnod, cyn dychwelyd i Indonesia i ddod yn gyfarwyddwr cwmni awyrennau.

Daeth yn weinidog dros dechnoleg dan yr arlywydd Suharto yn y cyfnod 1978-1998, yna yn 1998 yn Is-arlywydd. Pan orfodwyd Suharto i ymddiswyddo ym mis Mai 1998 daeth yn Arlywydd. Y flwyddyn wedyn ymddiswyddodd, a dilynwyd ef gan Abdurrahman Wahid (Gus Dur).

Cyfeiriadau[golygu]

  1. (Saesneg) B.J. Habibie. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Ionawr 2013.
Rhagflaenydd :
Suharto
Arlywyddion Indonesia
Bacharuddin Jusuf Habibie
Olynydd :
Abdurrahman Wahid