Bachadain y derw

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Watsonalla binaria
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Drepanidae
Genws: Drepana
Rhywogaeth: D. binaria
Enw deuenwol
Drepana binaria
Hufnagel, 1767
Cyfystyron
  • Falcaria binaria
  • Watsonalla binaria

Gwyfyn sy'n perthyn i deulu'r Drepanidae yn urdd y Lepidoptera yw bachadain y derw, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy bachadenydd y derw; yr enw Saesneg yw Oak Hook-tip, a'r enw gwyddonol yw Watsonalla binaria.[1][2] Fe'i ceir yn y rhan fwyaf o Ewrop, ar wahân i'r gogledd eithaf. Mae'n eitha cyffredin hefyd yn Lloegr a Chymru.

Mae'r oedolyn benywaidd yn fwy na'r gwryw: y naill yn 35 mm a'r llall yn 30 mm, ond maent yn debyg iawn o ran lliw.

Mae'n nhw'n dodwy ddwywaith y flwyddyn a gwelir yr oedolyn ar ei adain ym Mai ac ym Mhefefin. Ar adegau cânt eu gweld yn hedfan yn ystod y dydd, ond yn y nos fel arfer; cânt eu denu at olau.

Prif fwyd y siani flewog ydy gwernen, bedwen a ffawydden.

Cyffredinol[golygu]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd. Wedi deor o'i ŵy mae'r bachadain y derw yn lindysyn sydd yn bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu]

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.


Atlas moth transparent.png Eginyn erthygl sydd uchod am wyfyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.