Babs

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Babs tu allan Amgueddfa Wrecsam

Datblygwyd yr 'Higham Special' gan Clive Gallop ar gyfer Cownt Zhorowski, gyrrwr enwog o geir rasio. ac oedd o'r car mwyaf bwerus erioed i rasio yn Brooklands, efo injan awyren Liberty 27,059cc, blwch gêr Benz a gyriant cadwyn. Roedd y Cownt wedi cylchdroi Brooklands am 116.19 milltir yr awr ym 1924, a gyrwyd y car gan John Cobb hefyd. Ar ôl gyrfa lwyddianus fel prif beiriannydd Moduron Leyland, daeth John Parry-Thomas yn yrrwr ceir rasio.

Bu farw y Cownt ym Monza ym 1924. Prynodd Parry-Thomas y car am £125 o stad y Cownt ac ei enwodd yn 'Babs'. Ailadeiladodd Parry-Thomas y car efo 4 carbwradur Zenith, a phistonau mod o wedi cynllunio ei hun.

Ar 27 Ebrill 1926, torrodd o record y byd efo cyflymder o 168.07 dros milltir, a 169.24 milltir yr awr dros cilomedr ar Draeth Pentywyn, ac y diwrnod nesaf, codwyd y recordiadau at 170.62 a 171.09 milltir yr awr, i gyd yn cychwyn ar wib. Roedd yn gystadleuaeth frwdrydig rhwng Malcolm Campbell, Henry Seagrave a Parry Thomas i dorri'r record.

Aeth Parry Thomas yn ôl i Brooklands, a thorrodd "Babs" recordiadau dosbarth ar 14 Hydref 1926, dros 5 a 10 milltir, a 10 cilomedr.

Ar 3 Mawrth 1927, roedd Parry-Thomas yn ceisio torri'r record y byd ar Ddraeth Pentywyn eto, pan torrodd cadwyn ar gyflymder o 170 milltir yr awr, a bu farw Parry-Thomas. Claddwyd y car ar y traeth.

YM 1969, cloddiwyd i car yn ôl i'r wyneb, a dechreuwyd gwaith atgyweirio gan Owen Wyn-Owen, darlithydd peirianneg yng Ngholeg Technegol Bangor. Arddangosir 'Babs' yn Amgueddfa Gyflymdra Pentywyn.

Cyfeiriadau[golygu]

{http://www.parry-thomas.co.uk/

http://www.landspeedrecordcards.com/Parry_Thomas.htm

Gwefan Cymdeithas Brooklands