Babel (ffilm)
![]() Poster y Ffilm |
|
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Alejandro González Iñárritu |
| Cynhyrchydd | Steve Golin Jon Kilik |
| Ysgrifennwr | Guillermo Arriaga |
| Serennu | Brad Pitt Cate Blanchett Gael García Bernal Kōji Yakusho Adriana Barraza Rinko Kikuchi Nathan Gamble Elle Fanning |
| Cerddoriaeth | Gustavo Santaolalla |
| Golygydd | Douglas Crise Stephen Mirrione |
| Cwmni Cynhyrchu | Paramount Vantage |
| Dyddiad rhyddhau | 27 Hydref 2006 (cyfyngedig) 10 Tachwedd 2006 (cyffredinol) |
| Amser rhedeg | 143 munud |
| Gwlad | Siapan Mecsico Moroco UDA |
| Iaith | Saesneg Sbaeneg Arabeg Ffrangeg Siapaneg Iaith Arwyddo Siapaneg Berber |
| Gwefan swyddogol | |
| Adolygiad BBC Cymru'r Byd | |
| (Saesneg) Proffil IMDb | |
Mae Babel (2006) yn ffilm a gyfarwyddwyd gan Alejandro González Iñárritu ac a ysgrifennwyd gan Guillermo Arriaga.
Mae Babel yn ffilm sy'n cynnwys sawl stori wahanol sy'n digwydd ym Moroco, Siapan, Mecsico a'r UDA. Roedd y ffilm yn gyd-gynhyrchiad nifer o gwmnïau cynhyrchu wedi'u lleoli yn Ffrainc, Mecsico a'r Unol Daleithiau. Dangoswyd y ffilm am y tro cyntaf yng Ngwyl Ffilmiau Cannes yn 2006 ac yna i gynulleidfaoedd yn Ngŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Toronto a Gŵyl Ffilmiau Zagreb. Rhyddhawyd y ffilm mewn dinasoedd dethol yn yr Unol Daleithiau ar y 27ain o Hydref, 2006 gyda'r rhyddhad cyffredinol y ffilm ar y 10fed o Dachwedd, 2006. Ar y 15fed o Ionawr, 2007, enillodd Wobr Golden Globe am y Ffilm Ddrama Orau. Cafodd ei enwebu am saith o Wobrau'r Academi yn cynnwys y Ffilm Orau, y Cyfarwyddwr Gorau, dau enwebiad am yr Actores Gefnogol Orau ac un enwebiad am y Sgôr Wreiddiol Orau.
