BBC Wales Today

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Logo BBC Wales Today

Rhaglen newyddion iaith Saesneg i BBC Cymru yw BBC Wales Today. Mae'n debyg mai hi yw un o'r cyfresi teledu pwysicaf yng Nghymru, gyda chynulleidfa sylweddol yn gyson, er enghraifft roedd cyfartaledd o 277,000 o wylwyr yn 2006/07.[1]

Darlledir y prif raglenni bob Llun i Wener o 18:30 - 19:00, ond mae rhaglenni byrion a bwletinau i'w cael drwy'r dydd, o'r bwletinau byrion yn ystod rhaglen Breakfast ar BBC One Wales, hyd at y rhaglen hwyr am 22:25 ar ol y BBC News at Ten.

Y prif gyflwynwyr yw Jamie Owen a Lucy Owen, y cyflwynydd chwaraeon arferol yw Claire Summers a'r prif gyflwynydd tywydd yw Derek Brockway. Golygydd y rhaglen yw Gail Morris Jones.

Cysylltiad allanol[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Arolwg Blynyddol BBC Cymru Wales 2006/07
Flag of Wales 2.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato