BBC Wales Today

Oddi ar Wicipedia
Wales Today
Cyflwynwyd ganLucy Owen, Jennifer Jones, Nick Servini
Cyfansoddwr themaDavid Lowe
GwladCymru, Y Deyrnas Gyfunol
Iaith wreiddiolSaesneg
Cynhyrchiad
Lleoliad(au)Caerdydd, Cymru
Gosodiad cameraAml-gamera
Hyd y rhaglen30 munud
(prif raglen am 6:30pm)
Cwmni cynhyrchuBBC Cymru
Rhyddhau
Rhwydwaith gwreiddiolBBC One Wales
Fformat y llun576i (16:9 SDTV)
1080i (HDTV)
Darlledwyd yn wreiddiol17 Medi 1962 (1962-09-17) – presennol
Cronoleg
Sioeau cysylltiolITV News: Wales at Six,
Cardiff News
Dolennau allanol
Gwefan

Rhaglen newyddion iaith Saesneg i BBC Cymru yw BBC Wales Today. Mae'n debyg mai hi yw un o'r cyfresi teledu pwysicaf yng Nghymru, gyda chynulleidfa sylweddol yn gyson, er enghraifft roedd cyfartaledd o 277,000 o wylwyr yn 2006/07.[1]

Darlledir y prif raglenni bob Llun i Wener o 18:30 - 19:00, ond mae rhaglenni byrion a bwletinau i'w cael drwy'r dydd, o'r bwletinau byrion yn ystod rhaglen Breakfast ar BBC One Wales, hyd at y rhaglen hwyr am 22:25 ar ôl y BBC News at Ten.

Y prif gyflwynwyr yw Lucy Owen, Jennifer Jones a Nick Servini (o Mehefin 2018), y cyflwynydd chwaraeon arferol yw Claire Summers a'r prif gyflwynydd tywydd yw Derek Brockway. Golygydd y rhaglen yw Delyth Isaac.

Cyn gyflwynwyr[golygu | golygu cod]

Mae cyn gyflwynwyr Wales Today yn cynnwys: Elfyn Thomas, Noreen Bray; John Darren; Sara Edwards; Gail Foley; Jayne James; Rhys Jones; Patrick Hannan; Brian Hoey; Bob Humphrys; Vincent Kane; Jason Mohammad; Chris Morgan; David Parry-Jones; Betsan Powys; Penny Roberts; Simon Pusey; Tim Rogers, Kevin Owen, Glyn Mathias, Peter Walker, Alan Wilkins, Jamie Owen

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Arolwg Blynyddol BBC Cymru Wales 2006/07

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.