BART

Oddi ar Wicipedia
BART
Mathtrafnidiaeth gyflym awtomataidd, uwchbrosiect cludiant, Rheilffordd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlArdal Bae San Francisco Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol11 Medi 1972 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolpublic transportation in San Francisco Edit this on Wikidata
SirArdal Bae San Francisco Edit this on Wikidata
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Cyfesurynnau37.7868°N 122.4023°W Edit this on Wikidata
Nifer y teithwyr129,300,000 ±50000, 123,500,000 Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethSan Francisco Bay Area Rapid Transit District Edit this on Wikidata

Mae BART (Bay Area Rapid Transit) yn system drafnidiaeth cyflym sy'n cysylltu San Francisco efo dinasoedd a threfi ar ochr ddwyreiniol Bae San Francisco, gan gynnwys Berkeley ac Oakland, ac yn gwasanaethu siroedd San Francisco, Alameda a Contra Costa. Defnyddir y rhwydwaith gan dros 350,000 o bobl yn ddyddiol.[1]

Mae 44 o orsafoedd a 104 o filltiroedd o gledrau.[2] Lled y cledrau yw 1.676mm, ac mae trydedd cledr yn cyflenwi 1000 folt o drydan i'r trenau.

Leiniau'r rhwydwaith[golygu | golygu cod]

Map rhwydwaith BART

Mae gan BART 5 lein:-

Y Lein Felen[golygu | golygu cod]

Pittsburg/Bay Point – Maes Awyr San Francisco

Y Lein Goch[golygu | golygu cod]

Richmond – Daly City/Millbrae

Y Lein Werdd[golygu | golygu cod]

Fremont – Daly City

Y Lein Oren[golygu | golygu cod]

Richmond – Fremont

Y Lein Las[golygu | golygu cod]

Dublin/Pleasanton - Daly City/Millbrae

Cysylltu gyda gwasanaethau eraill[golygu | golygu cod]

Cysylltir rhwydwaith o dramffyrdd Muni efo BART yn sawl gorsaf yn San Francisco, a hefyd y lein Metrolink rhwng San Francisco a Los Angeles yng Ngorsaf San Matteo.

Y Dyfodol[golygu | golygu cod]

  • Bwriedir ymestyn BART o Fremont i Berryessa, yn San Jose, er mwyn gwasanaethu Dyffryn Silicon.[3]
  • Bwriedir ymestyn BART o Pittsburg/Bay Point i'r dwyrain Swydd Contra Costa wrth defnyddio trenau diesel llai.[4]
  • Bwriedir ymestyn BART o Dublin/Pleasanton i Livermore.[5]
  • Bwriedir ymestyn BART gan 5.4 milltir o Fremont i Warm Springs.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gwefan sanfrancisco.net". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-04-07. Cyrchwyd 2013-04-08.
  2. "Gwefan Grant's". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-24. Cyrchwyd 2013-04-08.
  3. "Gwefan Awdurdod Cludiant y Dyffryn, Santa Clara". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-07-03. Cyrchwyd 2013-04-08.
  4. Tudalen we BART am estyniad Contra Costa
  5. "Tudalen we BART am estyniad i Livermore". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-03-09. Cyrchwyd 2013-04-08.
  6. Tudalen we BART am estyniad i Warm Springs

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Gwefan BART Archifwyd 2013-04-02 yn y Peiriant Wayback.

Eginyn erthygl sydd uchod am Galiffornia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am gludiant. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.