Böhse Onkelz
| Böhse Onkelz | |
|---|---|
| Gwybodaeth gefndirol | |
| Man geni | |
| Cerddoriaeth | Roc caled Metel trwm Roc pync |
| Blynyddoedd | 1980–2005 |
| Label(i) recordio | Rock-O-Rama (1984-1986) Metal Enterprises (1987-1990) Bellaphon Records (1991-1994) Virgin Schallplatten (1995-2000) rule23 Recordings (2000-2005) |
| Dylanwadau | Sex Pistols Ramones |
| Gwefan | http://www.onkelz.com |
| Aelodau | |
| Kevin Russell (llais) Stephan Weidner (gîtar fâs) Matthias Röhr (gîtar) Peter Schorowsky (drymiau) |
|
Band roc Almaenig oedd Böhse Onkelz. Sefydlwyd y band ym mis Tachwedd 1980 yn Hösbach gan Stephan "Der W" Weidner, Kevin Russell a Peter "Pe" Schorowsky, fel band roc pync wedi eu dylanwadu gan fandiau megis y Sex Pistols a'r Ramones.
Mae'r enw yn gam-sillafiad pwrpasol o "ewythrod drwg" (böse Onkels), sy'n derm plentynaidd Almaeneg am oedolion drwg. Yn ôl Weidner ar eu DVD "20 Jahre: Live in Frankfurt", crewyd yr enw pan ddygwyd sled gan rai yn eu harddegau, a dywedodd un ohonynt "Hey, da sind die bösen Onkels schon wieder" (Hei, dacw'r ewythrod drwg yn dwad eto).
Arhosodd aelodau'r band yr un peth tan i Matthias Röhr (a gafodd y llysenw Gonzo ar ôl albwm Ted Nugent 'r un enw) ymuno ym 1981. Yn gerddorol, ef oedd y mwyaf profiadol yn y grŵp; roedd wedi bod yn chwarae gîtar am chwe mlynedd, ac wedi bod yn aelod o fandiau eraill megis Antikörper. Gan fod Weidner eisioes yn chwarae'r gîtar, dechreuodd Matthias ar y gîtar fâs, ond cyfenewidiodd y ddau offerynnau cyn rhyddhau Soundtracks zum Untergang 2. Roedd y band yn weithgar yn ardal Frankfurt am Main i gychwyn.
[golygu] Dolenni allanol
- onkelz.com (Saesneg)
- onkelz.de (Almaeneg)