Ayaan Hirsi Ali
Oddi ar Wicipedia
Gweithredwr, llenor, gwleidydd, a ffeminist Iseldiraidd o dras Somaliaidd yw Ayaan Hirsi Ali (Somaleg: Ayaan Xirsi Cali Arabeg: أيان حرسي علي; ganwyd Ayaan Hirsi Magan; 13 Tachwedd 1969) a wnaeth sefydlu'r AHA Foundation, sefydliad dros hawliau menywod. Ei thad yw'r ysgolhaig a gwleidydd Somaliaidd Hirsi Magan Isse. Mae hi'n feirniad blaenllaw o Islam a ysgrifennodd sgript y ffilm Submission a arweiniodd at fygythiadau yn erbyn ei bywyd a llofruddiaeth y cyfarwyddwr Theo van Gogh.