Australia (ffilm 2008)
![]() Poster y Ffilm |
|
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Baz Luhrmann |
| Cynhyrchydd | Baz Luhrmann Catherine Knapman G. Mac Brown |
| Ysgrifennwr | Stori Baz Luhrmann Sgript Baz Luhrmann Ronald Harwood Stuart Beattie Richard Flanagan |
| Serennu | Hugh Jackman Nicole Kidman Brandon Walters |
| Cerddoriaeth | David Hirschfelder |
| Sinematograffeg | Mandy Walker |
| Golygydd | Dody Dorn |
| Cwmni Cynhyrchu | 20th Century Fox |
| Dyddiad rhyddhau | 26 Tachwedd, 2008 |
| Amser rhedeg | 166 munud |
| Gwlad | Awstralia |
| Iaith | Saesneg |
| Gwefan swyddogol | |
| (Saesneg) Proffil IMDb | |
Mae Australia ("Awstralia") (2008) yn ffilm ramantaidd epig a gynhyrchwyd gan Baz Luhrmann. Mae'n serennu Nicole Kidman a Hugh Jackman. Ysgrifennwyd y sgript gan Luhrmann a'r sgriptiwr Stuart Beattie ar y cyd â Ronald Harwood. Lleolir y ffilm rhwng 1939 a 1942 gyda digwyddiadau yng Ngogledd Awstralia fel bomio Darwin yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn gefnlen i'r ffilm. Cyhyrchwyd y ffilm yn Sydney, Darwin, Kununurra, a Bowen. Bwriadwyd rhyddhau'r ffilm ar y 13eg o Dachwedd 2008 yn Awstralia a'r 16eg o Dachwedd yn yr Unol Daleithiau; fodd bynnag, cyhoeddodd Fox eu bod wedi gwthio'r dyddiadau yn ôl yn Awstralia a'r Unol Daleithiau i'r 26ain o Dachwedd gyda'r ffilm yn cael ei ryddhau yn fyd eang ar ddiwedd mis Rhagfyr 2008 a Ionawr a Chwefror 2009.
