Attock

Oddi ar Wicipedia
Attock
Mathdinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth97,374 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1904 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserPakistan Standard Time Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAttock District Edit this on Wikidata
GwladBaner Pacistan Pacistan
Uwch y môr359 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau33.77°N 72.37°E Edit this on Wikidata
Cod post43600 Edit this on Wikidata
Map

Mae Attock (Urdu: اٹک) yn ddinas a leolir ar ffin ogleddol talaith y Punjab, Pacistan, ar lan afon Indus. Hen enw'r ddinas oedd Attock Kurdh. Mae'n gorwedd tua 266m (873 troedfedd) uwch lefel y môr ym mhen coridor naturiol a ffurfir gan afon Kabul lle mae'n llifo i mewn i afon Indus. Poblogaeth y ddinas yw 69,588 (1998) ac mae gan Ardal Attock boblogaeth o 1,274,935 (2006). Mae Attock yn brifddinas ardal Attock.

Mae gan Attock hanes hir. Ganwyd y gramadegwr Sanscrit a mathemategydd enwog Panini mewn pentref ger Attock. Yng ngwanwyn 326 CC, daeth Alecsander Fawr, brenin Macedon a chwncwerwr ymerodraeth Persia, i lawr i'r Punjab (yn Ohind, 16 m. o Attock), gan ddefnyddio pont dros afon Indus a godwyd iddo gan ei llyngesydd Perdiccas a'r cadfridog Hephaestion. Yn ddiweddarach daeth Attock yn rhan o deyrnas Roegaidd Ederatides. Arosodd yng ngafael y brenhinoedd Groeg-Indiaidd hyd at tua 80 CC a goresgyniad y Scythiaid.

Ymwelodd y teithiwr Tsieinëaidd Hiuen Tsang â'r ardal yn 630 OC ac eto yn 643, a nododd fod Bwdhaeth yn blodeuo yno. Cyfeirir at Attock fel canolfan Fwdhaidd mewn un o ddatganiadau'r ymerodr o Fwdhydd Ashoka, ŵyr yr ymerawdwr Chandragupta.

Codwyd caer Attock ar graig ger y ddinas gan Akbar Fawr yn 1581-1583.

Hen lun o gaer Attock

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]