Atomfa'r Wylfa

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Wylfa

Gorsaf bŵer niwclar yng ngogledd Ynys Môn yw Atomfa'r Wylfa neu Gorsaf Bŵer Niwclar yr Wylfa. Saif ar benrhyn ar yr arfordir, ychydig i'r dwyrain o dref Cemaes. Daw'r enw o enw tŷ a adeiladwyd ar y safle yn niwedd y 19eg ganrif gan David Hughes.

Adeiladwyd yr atomfa o 1963 ymlaen, ac agorwyd yr orsaf yn 1971. Mae'n cynnwys dau adweithydd niwclear Magnox, 490 MW yr un, "Wylfa-1" a "Wylfa-2". Hi yw'r orsaf fwyaf o'r math yma yn y Deyrnas Unedig.

Cyhoeddwyd yn 2006 y byddai gorsaf yr Wylfa yn cau yn 2010, gan na byddai'n economaidd ei chadw wedi'r dyddiad hwnnw. Bu awgrym y gellid ei chadw ar agor am rai blynyddoedd wedyn. Mae hefyd awgrym adeiladu gorsaf niwclar newydd, Wylfa B, ar y safle, er bod hyn yn cael ei wrthwynebu gan grŵp PAWB (Pobl i Atal Wylfa B).

Gweler hefyd[golygu]