Athanasius Kircher

Oddi ar Wicipedia
Athanasius Kircher
Ganwyd2 Mai 1602 Edit this on Wikidata
Geisa Edit this on Wikidata
Bu farw28 Tachwedd 1680, 27 Tachwedd 1680 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ymerodraeth Lân Rufeinig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Gymnasium Theodorianum Edit this on Wikidata
Galwedigaethieithydd, mathemategydd, eifftolegydd, damcaniaethwr cerddoriaeth, seryddwr, archeolegydd, academydd, ysgrifennwr, ffisegydd, diwinydd, daearegwr, arbenigwr mewn llosgfynyddoedd, museoleg, cyfansoddwr, hanesydd, naturiaethydd Edit this on Wikidata

Ysgolhaig Almaenig ac offeiriad o Iesuwr oedd Athanasius Kircher (2 Mai 160127 Tachwedd 1680) sydd yn nodedig fel polymath.

Ganed ef yn Geisa (a leolir bellach yn Thüringen, yr Almaen), yn Abadaeth Fulda, un o esgob-dywysogaethau'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Dysgodd yr ieithoedd Roeg ac Hebraeg yn ysgol yr Iesuwyr yn Fulda, ac astudiodd y gwyddorau a'r dyniaethau yn Paderborn, Cwlen, a Koblenz cyn iddo gael ei ordeinio ym Mainz ym 1628. Ar un pryd fe'i penodwyd yn athro ym Mhrifysgol Würzburg. Ffoes yr Almaen i osgoi'r Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain, a chafodd sawl swydd academaidd yn Avignon. Ymsefydlodd yn Rhufain ym 1634, ac yno y bu am y rhan fwyaf o'i oes. Bu farw yn Rhufain yn 79 oed.[1]

Deallusyn dylanwadol oedd Kircher yn ystod ei oes, a daeth yn enwog fel dyn hollddysgedig: fe'i gelwir yn aml yn "ddyn olaf y Dadeni". Darllennodd yn awchus am ystod eang o bynciau, gan gynnwys archaeoleg, ieithoedd hynafol, daearyddiaeth, seryddiaeth, mathemateg, ffiseg, meddygaeth, opteg, acwsteg, a meddygaeth. Ysgrifennodd ryw 40 o lyfrau a 2000 o lawysgrifau a llythyrau sy'n goroesi. Nodir ei weithiau ysgrifenedig gan wyddoniaduraeth llawn darluniadau a diagramau. Yn ogystal â'i ddarlleniadau a thraethodu ysgolheigaidd traddodiadol, ceisiodd arsylwi ar y byd gyda synhwyrau ei hun: mewn esiampl enwog, cafodd ei ostwng ar ben rhaff i mewn i geudwll Vesuvius er mwyn sbïo ar y tu mewn i losgfynydd yn fuan wedi echdoriad. Casglodd nifer fawr o hynodbethau o fyd natur, sydd yn parhau heddiw fel Amgueddfa Kircher yn Rhufain. Fe'i ystyrir weithiau yn sefydlwr Eifftoleg am iddo geisio (heb lwyddiant) darllen yr hieroglyffau. Efe hefyd oedd y cyntaf i saernïo telyn eolaidd, offeryn cerdd a fyddai'n boblogaidd hyd at ddiwedd y 19g. Fodd bynnag, seiliwyd nifer o'i syniadau ar gamdybiaethau a gwybodaeth ail-law, ac mae diffyg y dull gwyddonol modern yn amlwg yn ei waith. Ni gwerthfawrogir Kircher am ei ddarganfyddiadau na damcaniaethau gwreiddiol, ond yn hytrach am ei frwdfrydedd dros ddysg a'i ymdrechion i arloesi ysgolheictod rhyngddisgyblaethol. Ar sail ei enwogrwydd, priodolir nifer o ddyfeisiau iddo ar gam, gan gynnwys yr hudlusern a'r microsgop.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Athanasius Kircher. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Mehefin 2023.