Astudiaethau cudd-wybodaeth

Oddi ar Wicipedia

Maes academaidd rhyngddisgyblaethol sydd yn ymwneud â chudd-wybodaeth yw astudiaethau cudd-wybodaeth. Cyfeirir at gudd-wybodaeth fel "dimensiwn coll" meysydd cysylltiadau rhyngwladol a hanes diplomyddol gan fod llwyddiannau cudd-wybodaeth yn gyffredinol yn anhysbys o ganlyniad i natur gyfrinachol y pwnc.[1]

Mae cyfnodolion astudiaethau cudd-wybodaeth yn cynnwys International Journal of Intelligence and CounterIntelligence ac Intelligence and National Security, ac mae cyfnodolion eraill ar gysylltiadau rhyngwladol ac astudiaethau diogelwch, megis International Security, yn aml yn cyhoeddi erthyglau ar gudd-wybodaeth.

Mae nifer o brifysgolion yn addysgu astudiaethau cudd-wybodaeth, gan gynnwys Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.

Astudiaethau cudd-wybodaeth a chysylltiadau rhyngwladol[golygu | golygu cod]

Tan yn ddiweddar cyfyngedig oedd diddordeb gan ysgolheigion cysylltiadau rhyngwladol yng nghudd-wybodaeth, nid yn unig ers ei gychwyn fel maes academaidd, ond hefyd gan strategwyr clasurol megis Carl von Clausewitz a Machiavelli.[2] Ym Mhrydain datblygwyd astudiaethau cudd-wybodaeth yn bennaf o fewn maes hanes rhyngwladol, ac yn yr Unol Daleithiau o fewn gwyddor gwleidyddiaeth, ond yn bennaf o fewn astudiaeth gwneud penderfyniadau yn hytrach na chysylltiadau rhyngwladol.[3] Yn ddiweddar ymddangosa ymgeision i ymuno astudiaethau cudd-wybodaeth â damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol, megis traethawd Andrew Rathmell ar ddamcaniaeth ôl-fodern o gudd-wybodaeth.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Evans a Newnham, t. 256.
  2. Jackson a Scott, t. 173.
  3. 3.0 3.1 Jackson a Scott, t. 174.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

Jackson, Peter a Scott, Len (2005). "Intelligence", gol. Finney, Patrick: Palgrave Advances in International History. Palgrave Macmillan

Evans, Graham a Newnham, Jeffrey (1998). The Penguin Dictionary of International Relations. Penguin

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]