Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru
Oddi ar Wicipedia
Corff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad yw Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru (Saesneg: Environment Agency Wales), sy'n gorff gweithredol heb fod yn ran o'r llywodraeth. Mae'n rhan o Asiantaeth yr Amgylchedd ac yn gwasanaethu ardal sy'n cyfateb yn fras i Gymru, ond ar sail dalgylchoedd afonydd yn hytrach na ardaloedd llywodraethol. I'r dwyrain, caiff ffin Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ei ddiffinio gan dalgylchoedd llednentydd yr Afon Ddyfrdwy, yr Afon Rheidol, Afon Dyfi, Afon Tywi a'r Afon Gwy.
Cyfarwyddwr rhanbarthol Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yw Chris Mills. Lleolir eu pencadlys yng Nghaerdydd ac mae swyddfeydd ardal a rhanbarthol i'w cael yn Llaneirwg, Mynwy, Llandarcy, Hwlffordd, Llanbedr Pont Steffan, Bangor, Rhuddlan, Bala a Bwcle
