Asghar Farhadi

Oddi ar Wicipedia
Asghar Farhadi
Ganwyd7 Mai 1972 Edit this on Wikidata
Talaith Isfahan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethIran Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Tarbiat Modares
  • Prifysgol Tehran Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfarwyddwr, cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, cynhyrchydd, cynhyrchydd ffilm Edit this on Wikidata
Adnabyddus amAm Elly, A Separation, Le passé – Das Vergangene, The Salesman, A Hero Edit this on Wikidata
PriodParisa Bakhtavar Edit this on Wikidata
PlantSarina Farhadi Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr yr Arth Arian i'r Cyfarwyddwr Gorau, Yr Arth Aur, Gwobr Cesar i'r Ffilm Estron Gorau, Gwobr y Golden Globe i'r Ffilm Iaith Estron Gorau, Asian Film Award for Best Director, Prize of the Ecumenical Jury Cannes, Gwobr Chlotrudis i'r Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr Chlotrudis am y Ddrama-sgrin Wreiddiol Orau, Gwobr i'r Sgript Gorau (Gŵyl Ffilm Cannes), Cannes Film Festival Grand Prix Edit this on Wikidata

Mae Asghar Farhadi (ganwyd 7 Mai 1972) yn un o brif gyfarwyddwyr ffilm y byd, un o gyfarwyddwyr prin i ennill Oscar dwywaith gan ennill yn 2012 a 2017 am ffilm orau mewn iaith dramor [1][2]

Fe'i enwyd yn rhestr 2012 cylchgrawn Time yn 'un o bobl mwyaf ddylanwadol y byd'.

Bywyd a gyrfa[golygu | golygu cod]

Ganwyd yn Homayoon Shahr, talaith Isfahan, Iran (yn dilyn Chwyldro Islamaidd Iran newidiwyd enw'r dref a oedd yn meddwl 'Tref hynod' i Khomeyni Shahr – 'Tref Khomeyni' ar ôl yr Ayatollah Khomeini).

Astudiodd theatr yn y brifysgol yn Tehran ble dechreuodd gwneud ffilmiau ei hun ar gamera 8mm ac 16mm cyn mynd ymlaen i ysgrifennu sgriptiau ffilm a theledu a chynhyrchu rhaglenni teledu.

Yn 2003 cynhyrchodd ei ffilm gyntaf Dancing in the Dust, wedyn The Beautiful City (2004) a Fireworks Wednesday (2006). Yn 2009 daeth i sylw'r byd gyda About Elly a enillodd nifer fawr o wobrau rhyngwladol yn cynnwys cyfarwyddwr gorau yng Ngŵyl Ffilmiau Berlin.

Daeth Farhadi yn enwog yn y gorllewin am ei ffilm ganlynol A Separation (2011). Enillodd y brif wobr yng Ngŵyl Ffilmiau Berlin ac Oscar am Best Foreign Language Film – y ffilm cyntaf o'r dwyrain canol i ennill Gwobr Academi Hollywood. Bu torfeydd llawen yn aros i'w groesawu pan ddychwelodd i faes awyr Tehran ond blociodd lywodraeth Iran groeso swyddogol iddo.[3]

Yn 2017 enillodd Oscar unwaith eto am ei ffilm The Salesman ond benderfynodd beidio â mynychu'r seremoni wobrwyo mewn protest yn erbyn gwaharddiad llywodraeth Donald Trump i atal ymwelwyr o sawl gwlad Fwslemiaid.[4]

Themâu[golygu | golygu cod]

Mae ffilmiau Farhadi yn ymdrin â themâu elfennol bywyd a chymhlethdodau a dilemâu’r byd modern sydd yn codi rhwng dosbarthiadau cymdeithasol a pherthynas dynion a merched.

Fel llawer o gyfarwyddwyr ffilm gyfoes y wlad mae Farhadi yn adlewyrch tensiwn Iran heddiw. Y tyndra rhwng agweddau modern a thraddodiadau Islamaidd ffwndamentalaidd, rhyddid yr unigolion a chyfyngiadau cymdeithas, rôl merched a chyfrifoldeb teuluol, cyfoeth a dosbarth. Er Enghraifft mae About Elly yn dilyn criw o bobl ifanc dosbarth canol o Tehran yn mynd ar wyliau lan môr a'r problemau sydd yn codi wedi iddynt ddweud bod bachgen hyderus a merch swil yn bâr briod er mwyn cael aros yn y tŷ hâf (mae cyfraith Iran yn atal merched rhag nifer o weithgaredd heb fod yn nghwmni gŵr, tad neu frawd). Mae The Separation yn dilyn cwpl sydd yn mynd trwy ysgariad, eu gwrthdaro, dryswch ac ansicrwydd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]