As-Safir

Oddi ar Wicipedia
As-Safir
Enghraifft o'r canlynoldaily newspaper Edit this on Wikidata
Daeth i ben31 Rhagfyr 2016 Edit this on Wikidata
GwladLibanus Edit this on Wikidata
IaithArabeg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu26 Mawrth 1974 Edit this on Wikidata
PencadlysBeirut Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.assafir.com/ Edit this on Wikidata


Papur newydd dyddiol Arabeg a gyhoeddir yn ninas Beirut, Libanus, yw As-Safir (Arabeg: السفير‎ as-Safir "Y Llysgenad"; weithiau al-Safir mewn rhai ffynonellau). Fe'i cyhoeddwyd am y tro cyntaf ar y 26ain o Fawrth 1974 fel papur dyddiol gwleidyddol. Mae'n cael ei ystyried yn bapur newydd safonol ac fe'i dyfynnir yn aml gan asiantaethau newyddion a chyfryngau eraill.

Sefydlwyd y papur gan Talal Salman yn 1974 fel llais annibynnol i'r adain chwith pan-Arabaidd a oedd yn gynyddol weithgar ac amlwg ym mywyd gwleidyddol a deallus Libanus. Ei amcan oedd "bod yn bapur newydd y byd Arabaidd yn Libanus, a phapur newydd Libanus yn y byd Arabaidd". Erys hyn fel arwyddair ar flaen y papur.

Yn olygyddol, mae'n gogwyddo tuag at Syria a gwleidyddiaeth seciwlar gyda'r pwyslais ar undod y gwledydd Arabaidd yn wyneb imperialaeth.

Mae'r apapur yn aelod o'r Arab Press Network, rhwydwaith sy'n hyrwyddo gwasg gryf annibynnol yn y byd Arabaidd.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]