Arthur James
Oddi ar Wicipedia
| Arthur James | |
| Arthur James |
|
|
31ain Llywodraethwr Pennsylvania
|
|
| Cyfnod yn y swydd 17 Ionawr, 1939 – 19 Ionawr 1943 |
|
| Rhagflaenydd | George Earle |
|---|---|
| Olynydd | Edward Martin |
|
|
|
| Geni | 14 Gorffennaf, 1883 Plymouth, Pennsylvania |
| Marw | 27 Ebrill 1973 (89 oed) |
| Plaid wleidyddol | Gweriniaethol |
| Priod | Ada Norris |
| Alma mater | Prifysgol Talaith Pennsylvania |
Gwleidydd, cyfreithiwr, a barnwr Americanaidd oedd Arthur Horace James (14 Gorffennaf, 1883 – 27 Ebrill, 1973). Gwasanaethodd fel Llywodraethwr Pennsylvania o 1939 hyd 1943.
Cafodd ei eni ym Mhlymouth, Pennsylvania yn fab mewnfudwyr Cymreig. Mynychodd Ysgol Gyfraith Dickinson yn Carlisle, Pennsylvania a graddiodd yn y gyfraith ym 1904. Ym 1912 priododd Ada Norris, athrawes o Swydd Luzerne. Gwasanaethodd fel Twrnai Ardal Swydd Luzerne o 1920 hyd 1926. Ar 8 Tachwedd 1938, cafodd ei ethol i fod y 31ain Llywodraethwr ar Bennsylvania. Roedd yn erbyn New Deal Franklin D. Roosevelt.
Dolen allanol [golygu]
- (Saesneg) Arthur Horace James Pennsylvania Historical & Museum Commission.