Arthur Howard Williams

Oddi ar Wicipedia
Arthur Howard Williams
Enghraifft o'r canlynolbod dynol Edit this on Wikidata
Howard Williams yn trafod ei gêm yn 1974 yn erbyn Anatoly Karpov

Cyn-chwaraewr gwyddbwyll rhyngwladol Cymreig yw Arthur Howard Williams (ganwyd 1950). Daw o Gwm Rhondda'n wreiddiol ond mae bellach yn byw yn Llechryd, Ceredigion.

Dysgodd chwarae gwyddbwyll yn 10 oed pan brynodd ei dad set iddo'n anhreg Nadolig, a phan aeth i Ysgol Ramadeg Y Bont-faen ymunodd gyda'r Clwb Gwyddbwyll yno. Enillodd Bencampwriaeth Gwyddbwyll Cymru i blant dan 14 oed yn 1964, ac wedyn dan bymtheg oed yn 1965. Yn 1966 enillodd Bencampwriaeth Gwyddbwyll Prydain dan 16 oed.

Daeth yn gydradd gyntaf ym Mhencampwriaeth Gwyddbwyll Prydain yn 1974, ond collodd y gêm ailgyfle. Yn 1974 hefyd chwaraeodd yn erbyn Anatoly Karpov ddaeth yn Bencampwr Gwyddbwyll y Byd flwyddyn yn ddiweddarach.

Mae Howard Williams wedi bod yn Bencampwr Gwyddbwydd Cymru 18 o weithiau, ac wedi ennill y teitl yn 1971, 1972, 1974, 1975, 1979-80, 1980-81, 1981-82 ac 1986, a'i rannu yn 1968, 1977, 1978, 1982-83, 1987, 1988, 1991, 1993, 1994 a 2011. Cynrychiolodd ei wlad mewn 8 Olympiad Gwyddbwyll rhwng 1972 ac 1986.

Yn 1973 cyhoeddodd Alekhine's Defence, llyfr ar Amddiffyniad Alekhine ar y cyd gyda'r chwaraewr gwyddbwyll o Loegr, Richard Eales. Ef hefyd oedd olynydd T. Llew Jones fel golygydd Y Ddraig, cylchgrawn gwyddbwyll Cymru.

Cafodd ei ysgogi i ddysgu Cymraeg wrth chwarae dros Gymru yn Olympiad Gwyddbwyll Buenos Aires yn Yr Ariannin yn 1978 pan glywodd ei gyd-chwaraewr rhyngwladol Iolo Ceredig Jones yn siarad yr iaith yn y gwesty gyda phobl o'r Wladfa. Mae Williams wedi dysgu i siarad Cymraeg yn rhugl a chynganeddu.

Mae'n dal i chwarae gwyddbwyll dros glwb Aberteifi.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Howard Williams, Meistr Gwyddbwyll a Chynganeddwr, Y Faner Newydd, Rhifyn 38, 2006.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]