Arthur George Owens

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Ysbïwr dwbwl i MI5 oedd Arthur George Owens (1899 - 1976) a daflodd lwch i lygaid yr Almaenwyr mewn ymgyrch lwyddiannus iawn. Twyllodd yr Abwehr (sef gwasanaeth cudd byddin yr Almaen) i gredu ei fod yn wladgarwr tanbaid Cymreig a oedd yn recriwtio ysbïwyr o rengoedd Plaid Genedlaethol Cymru.

Fe'i ganwyd yn Abertawe ond symudodd i Ganada pan oedd yn ifanc iawn ac yna i Loegr yn 1933 gan sefydlu'r Owens Battery Company yno. Erbyn y rhyfel roedd yn cael ei gyflogi gan MI5. Cafodd ei garcharu yn Lloegr rhwng 1941 a diwedd y rhyfel am ryw reswm dirgel.

Gweler hefyd[golygu]

Ffynhonnell[golygu]

  • Gwyddoniadur Cymru tudalen 678