Arthur's Stone

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arthur's Stone

Heneb Neolithig yn Swydd Henffordd, Lloegr yw Arthur's Stone (sef "Carreg Arthur" yn Gymraeg). Fe'i lleolir bron i 1000 troedfedd uwch lefel y môr ar ben bryn rhwng Bredwardine a Dorstone.

Math o siambr gladdu o gyfnod Oes Newydd y Cerrig a elwir yn siambr gladdu gellog gan yr archaeolegwyr ydyw. Credir iddi gael ei chodi rhwng tua 3,700CC a 2,700CC. Mae'r pridd a'i gorchuddiai wedi mynd a dim ond y meini sy'n aros erbyn hyn, fel cromlech.

Mae'n un o sawl heneb yng ngwledydd Prydain a enwir ar ôl y Brenin Arthur (bl. 5ed ganrif), ond does dim cysylltiad hanesyddol rhwng yr arwr hwnnw a'r heneb.


Herefordshire arms.png Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Henffordd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.