Arthur Walsh, 3ydd Barwn Ormathwaite

Oddi ar Wicipedia
Arthur Walsh, 3ydd Barwn Ormathwaite
Ganwyd10 Ebrill 1859 Edit this on Wikidata
Bu farw13 Mawrth 1937 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
TadArthur Walsh, 2il Farwn Ormathwaite Edit this on Wikidata
MamKatherine Walsh Edit this on Wikidata
PriodClementine Pratt Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Croes Fawr Urdd Frenhinol Victoria Edit this on Wikidata

Roedd Arthur Henry John Walsh, 3ydd Barwn Ormathwaite GCVO (10 Ebrill 185913 Mawrth 1937) yn wleidydd ac yn ŵr llys a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Sir Faesyfed o 1885 i 1892.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Walsh yn Llundain ym 1859 yn fab hynaf yr 2il Farwn Ormathwaite a'i wraig, Katherine, merch y 7fed Dug Beaufort. Roedd teulu Walsh yn berchen ar ystâd Nantgwyllt, Rhaeadr Gwy. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Eton.

Ar 26 Gorffennaf, 1890 priododd a'r Ledi Clementine Pratt, unig ferch 3ydd Ardalydd Camden.[1] Ni chawsant blant.

Gyrfa filwrol[golygu | golygu cod]

Ym 1876 cafodd ei gomisiynu'n Ail Is-gapten ym Milisia Cyffinwyr De Cymru, gan gael ei ddyrchafu'n Is-gapten yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn. Ym 1878 trosglwyddodd i'r fyddin barhaol fel Ail Is-gapten yn y Life Guards. Ymadawodd a'r fyddin barhaol ym 1887 a daeth yn Ail Is-gapten yng Nghatrawd Iwmyn Dwyrain Swydd Caint gan wasanaethu hyd 1890.

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Safodd Walsh yn etholaeth Sir Faesyfed yn enw'r Blaid Geidwadol yn etholiad cyffredinol 1885 gan gipio'r sedd oddi wrth y Blaid Ryddfrydol. Fe fu ei daid John Benn Walsh, Barwn 1af Ormathwaite, a'i dad Arthur Walsh, 2il Farwn Ormathwaite yn ASau Ceidwadol yr etholaeth o'i flaen[2]. Cadwodd y sedd yn etholiad cyffredinol 1886[3] cyn cael ei drech gan yr ymgeisydd Rhyddfrydol Francis Edwards ym 1892. Etifeddodd Walsh teitl ei dad yn 1920 gan gael ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi lle fu'n aelod hyd ei farwolaeth ym 1937, gan nad oedd ganddo blant cafodd y teitl ei basio i'w frawd, George. Gwasanaethodd fe Arglwydd Raglaw Sir Faesyfed 1918-1921[4]

Gyrfa fel Gŵr llys[golygu | golygu cod]

Ym 1892 fe'i penodwyd yn Gwastrawd wrth aros i'r Frenhines Victoria. Ym 1897 cafodd ei benodi'n Ddistain yr Aelwyd i Mari, Duges Teck; bu hi farw'n ddiweddarach yn yr un flwyddyn a chludodd Walsh ei choron yn ei hangladd. Gwasanaethodd fel Ystlyswr Bonheddig (1902-1905) a Gwas Wrth Aros (1905-1907) i'r Brenin Edward VII ac roedd yn Feistr y Seremonïau[5] o 1907 i 1920. Cafodd Walsh ei benodi'n Aelod o Urdd Frenhinol Fictoria ym 1907 (MVO); cafodd ei ddyrchafu'n Gadlywydd yr urdd (CVO) yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 1910, Marchog cadlywydd ym 1912 (KCVO) a Marchog y Groes Fawr (GCVO) ym 1920.

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Richard Green-Price
Aelod Seneddol Sir Faesyfed
18851892
Olynydd:
Francis Edwards
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig
Rhagflaenydd:
Arthur Walsh
Barwn Ormathwaite
19201937
Olynydd:
George Walsh
Teitlau Anrhydeddus
Rhagflaenydd:
Powlett Milbank
Arglwydd Raglaw Sir Faesyfed
1918 - 1922
Olynydd:
Charles Coltman-Rogers

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Welcome Home to the Hon Alfred Walsh MP", Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser, 17 Hydref 1890 [1] adalwyd 26 Chwefror 2015
  2. "Parliamentary History of Radnorshire", Cardiff Times, 3 Chwefror 1894 [2] adalwyd 26 Chwefror 2015
  3. "Radnorshire", Aberystwyth Observer, 10 Gorffennaf 1886 [3], adalwyd 26 Chwefror 2015
  4. "Personal", Llangollen Advertiser, 5 Ebrill 1918 [4], adalwyd 26 Chwefror 2015
  5. "King Albert's Birthday", Abergavenny Chronicle, 16 Ebrill 1915 [5], adalwyd 26 Chwefror 2015