Arras

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Petite place yng nghanol Arras

Tref a chymuned yng ngogledd Ffrainc sy'n brifddinas weinyddol département Pas-de-Calais yw Arras (Iseldireg: Atrecht). Er ei bod yn ganolfan hanesyddol hen ranbarth Artois, siaredir tafodiaith Picard yno. Yn wahanol i'r rheol gyffredin yn Ffrangeg, yngenir yr "s" derfynnol.

Sefydlwyd Arras gan llwyth Celtaidd yr Atrebates ac yn nes ymlaen daeth yn dref garsiwn Rufeinig dan yr enw Atrebatum. Fe'i lleolir yn Artois, a fu yn dalaith o'r Iseldiroedd am gyfnod. Am ganrifoedd ymladdai Ffrainc a'r Iseldiroedd dros ei meddiant a newidiodd ddwylo sawl gwaith cyn dod yn rhan o Ffrainc ar ddiwedd yr 17eg ganrif. Roedd Arras yn dwyn cysylltiad â masnach Fflandrys a daeth yn enwog erbyn diwedd yr Oesoedd Canol am ei brodwaith gwlân arbennig a allforid ledled Ewrop. Defnyddir y term arras o hyd am frodweithiau o safon uchel.

Arwyddwyd cytundeb Undeb Atrecht (Undeb Arras) yma yn Ionawr 1579. Yn y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Arras yn gorwedd yn agos i'r ffrynt ac ymladdwyd Brwydr Arras yno ac yn y cyffiniau. Dioddefodd ddifrod sylweddol mewn canlyniad. Yn yr Ail Ryfel Byd yn ystod Goresgyniad Frainc (Mai 1940), ymladdwyd frwydr fawr arall yno.

Flag of France.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.