Arnaut Daniel

Oddi ar Wicipedia
Arnaut Daniel
Ganwydc. 1150, 1150 Edit this on Wikidata
Ribérac Edit this on Wikidata
Bu farwc. 1210 Edit this on Wikidata
Ribérac Edit this on Wikidata
GalwedigaethTrwbadŵr, bardd, ysgrifennwr, cyfansoddwr Edit this on Wikidata
Mudiadcerddoriaeth ganoloesol, troubadoric poetry Edit this on Wikidata

Trwbadŵr yn yr iaith Ocsitaneg ar ddiwedd y 12g oedd Arnaut Daniel de Riberac neu Arnaut Danièl. Disgrifir ef gan Dante fel "il miglior fabbro" ("y crefftwr/creawdwr gorau"), tra galwodd Petrarch ef yn gran maestro d'amor ("Feistr Mawr Cariad"). Yn yr 20g roedd Ezra Pound o'r farn mai ef oedd y bardd mwyaf erioed.

Yn ôl un bywgraffiad, ganed Daniel yng nghastell Ribérac yn Périgord i deulu uchelwrol; ond mae ffynonellau eraill yn awgrymu nad oedd yn gyfoethog. Ef oedd dyfeisydd y sestina, cân o chwe pennill o chwe llinell yr un, gyda'r un geiriau mewn trefn wahanol ar ddiwedd pob pennill.

Dim ond deunaw o gerddi'r bardd sydd wedi goroesi; mae pob cerdd namyn un yn ymwneud â serch.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • G. Toja (gol.), Arnaut Daniel, Canzoni (Firenze, 1960)
Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.