Arllwysiad olew
Oddi ar Wicipedia
Deepwater Horizon yng Ngwlff Mecsico 2010. Y llif olew mwyaf yn hanes yr Unol Daleithiau.
Arllwysiad olew yw'r term a ddefnyddir am olew yn cael ei golli i'r amgylchedd oherwydd damwain neu gamgymeriad. Fel rheol, defnyddir y term am olew yn cael ei golli i'r môr.
Gall hyn ddigwydd pan fo damwain i danceri olew neu i rigiau drilio. Gall hefyd ddeillio o ddamwain i longau eraill, sy'n peri iddynt golli olew puredig sy'n cael ei ddefnyddio fel tanwydd. Gallant greu difrod mawr i'r amgylchedd, a gall yr effeithiau barhau am flynyddoedd.